CROESO I WEFAN MAENTWROG
Arrow
Arrow
Slider

Hafan

Mae Cymuned Maentwrog mewn ardal nodedig am ei harddwch o fewn ffiniau Parc Cenedlaethol Eryri yng Ngwynedd. Mae dau bentref o fewn y gymuned, sef Maentwrog a Gellilydan. Mae cyfoeth o hanes a chwedloniaeth ynghlwm ậ’r ardal. Cyfeirir at Maentwrog ym Mhedwaredd Gainc y Mabinogi. Yn ộl y chwedl, lladdwyd Pryderi gan Gwydion yn ystod brwydr yn yr ardal ac fe’i claddwyd yma. Saif Eglwys Sant Twrog yng nghanol y pentref a’r lan yr afon Dwyryd. Mae hen chwedl am Sant Twrog yn taflu carreg enfawr o ben y Moelwyn i ddinistrio allor baganaidd. Gwelir y maen heddiw wrth gongl yr eglwys. Mae llawer iawn o olion ein cyndadau o’r oes efydd ymlaen wedi eu darganfod yn yr ardal.

Saif pentref Maentwrog ar lan yr afon Dwyryd ar gyffordd yr A470 a’r A496 i Harlech. Mae dwy dafarn yn y pentref, Y Grapes, sy’n dyddio’n ộl i’r ail ganrif ar bymtheg a’r Oakley Arms. Mae capel yr Annibynwyr, Gilgal ar ochr y ffordd i gyfeiriad Gellilydan .Datblygodd pentref Maentwrog yn y ddeunawfed ganrif gyda thwf y diwydiant llechi. Byddai llechi o’r chwareli cyfagos yn cael eu llwytho a’u cludo ar gychod oddi yma cyn adeiladu’r ffordd.

Mae Plas Tan y Bwlch, plas a fu’n eiddo teulu’r Oakleys, perchnogion chwareli ym Mlaenau Ffestiniog, bellach yn Ganolfan Astudio gan y Parc Cenedlaethol Eryri. Mae’r Cyngor Cymuned Maentwrog yn cael defnyddio ystafell yno i gynnal eu cyfarfodydd. Bydd Pwyllgor Gweithgareddau Maentwrog hefyd yn cael defnyddio Plas Tan y Bwlch i gynnal eu gweithgareddau. Bydd y Pwyllgor Gweithgareddau yn cynnal teithiau cerdded yn achlysurol a thrip blynyddol yn ystod yr haf. Mae Rheilffordd Ffestiniog yn atynfa boblogaidd ac mae llawer o ymwelwyr yn ymweld a Gorsaf y Dduallt.

Mae gorsaf drydan Maentwrog a agorwyd ym 1928 yn parhau i gynhyrchu trydan gan ddefnyddio dwr o lyn Trawsfynydd.

Pentref Gellilydan

Mae pentref Gellilydan o fewn cymuned Maentwrog ar ymyl y ffordd A470 ac mae’r ffordd B4410 yn mynd drwy’r pentref i Faentwrog. Mae ysgol yn y pentref, sef Ysgol Edmwnd Prys. Yn ol y cyfrifiad diwetha, mae 67.3% o’r boblogaeth dros 3 oed y gymuned yn siarad Cymraeg a Chymraeg yn naturiol ydi prif iaith cymdeithasu ac addysgu yn yr ysgol. Mae’r ysgol o fewn dalgylch Ysgol y Moelwyn ym Mlaenau Ffestiniog.

Tyfodd y pentref gryn dipyn pan godwyd Atomfa Trawsfynydd ym 1959 a symudodd nifer o deuluoedd i’r pentref a’r ardal. Mae capel Y Methodistiaid Calfinaidd yn y pentref a’r capel Utica a’r Eglwys Babyddol o bobtu’r pentre ar ochr y ffordd A470. Mae un dafarn yn y pentref, sef Y Bryn Arms (Y Rhaeadr) a maes carafanau Y Llwyn.