(o’r cylchgrawn Fferm a Thyddyn, Calan Gaeaf 2004)
Hanesion y byddai fy niweddar dad yn eu hadrodd i ni’r plant am amaethu cyn y Rhyfel Cyntaf yn fy hen gartref Llech y Cwm, Gellilydan sydd gen i y tro hwn.
Bryd hynny roedd Llech y Cwm fel gweddill ffermydd yr ardal yn perthyn i stad yr Oakleys, Plas Tan y Bwlch. Byddai rhai o’r ffermydd yma yn cyflogi gweision a morynion i’w cynorthwyo hefo’r gwaith beunyddiol ond dim dyna’r sefyllfa bob tro chwaith. Doedd ambell un ddim digon o faint i gynnal y teulu ac yn yr achosion hynny byddai’r tad yn mynd i weithio i un o chwareli Stiniog a gadael y wraig i edrych ar ôl yr anifeiliaid. Byddai yntau yn gwneud ei orchwylion ar y fferm ar ôl dod adre o’i waith neu ar y Sadwrn, ond byth ar y Sul.
Ym 1911 cyflogwyd fy nhad yn was llawn amser gan Beti Lewis a’i mab Evan yn Llech y Cwm. Gwraig weddw oedd hi ac yn fam i saith o blant ond roedd chwech o’r rhain wedi mynd dros ymyl y nyth gan adael dim ond Evan i edrych ar ôl y fferm a gofalu am ei fam.
Gwaith fy nhad oedd edrych ar ôl y gwartheg. Roedd yno 14 o wartheg godro, lloeau bach, dyniewid a diadell o ddefaid yn pori yn Ffridd Du ac i lawr yng nghoedwigoedd y Ceunant. Hefyd roedd ganddyn nhw ddefaid cynefin ar fynydd Braich Du, sydd dipyn i fyny o gaer Tomen y Mur, ac roedd yn daith o bron 4 milltir i gerdded yno o Lech y Cwm.
Roedd ganddyn nhw ddau geffyl, caseg wedd a’r llall yn ysgafnach at bwrpas gwerthu llefrith ym mhentrefi Gellilydan a Llan Ffestiniog. Codai pawb yn fore iawn i odro ac i gychwyn Evan ar ei rownd fel y gallai fod gartre erbyn cinio cynnar.
Roedd Evan Lewis yn ddewin dŵr ac fe gloddiodd fy nhad ac yntau 5 o ffynhonau yr oedd wedi eu darganfod. Gweithiai y ddau yn ddiwyd i wella’r tir a chael trefn ar bopeth. Ceid tir gwlyb iawn yng ngwaelod Cae Tŷ, gwaelod Cae Pen Llo a Chae Bladur Gam a dyna drefnu i agor ffos ddofn drwyddyn nhw ac iddi redeg i lawr ochr y coed ac i lawr i’r ceunant a gwneud cyfres o ‘french drains’ ar hyd y gors a rhedeg rhain i’r ffos. Roedd hi’n grefft arbennig iawn i wneud y traeniau yma a chariwyd llwythi lawer o gerrig mân wedi eu torri efo gordd i’w rhoi ynddyn nhw.Golygai waith caled a chywrain a chawsent gymorth y ddau frawd i gwblhau a chau’r traeniau yn daclus. O ganlyniad sychodd y tir gwlyb a thyfwyd gwair yn ychwanegol at borthiant y gaeaf.
Roedd yna dir diffaith yn terfynnu â Phen y Glannau, yn ddim byd ond eithin, drain duon, mieri a cherrig anferth. Penderfynodd y pedwar pe baent yn clirio rhain i gyd y buasent yn cael cae ychwanegol. Eu harfau oedd caib, trosol a rhaw bob un ac wrth gwrs bôn braich a digon o chwys. Cymerwyd llawer o wythnosau i ddod â’r tir i drefn ond wedi aredig, ei galchu a’i hadu cafwyd cae newydd ac fe’i bedyddiwyd gyda’r enw Cae Lloer am fod andros o graig yng nghanol y cae yn debyg i siap lleuad.
Y gorchwyl nesa oedd codi cloddiau cerrig gan ddefnyddio’r cerrig godwyd o’r tir. Roedd fy nhad wrth ei fodd efo’r gwaith yma, wedi dysgu’r grefft gan ei dad yntau pan oedd gartref yn Nhrawsfynydd. Fe gymerodd hi dair blynedd i gwblhau’r cloddiau ac roeddent yn hardd iawn a phawb o bell yn eu hedmygu a chafwyd canmoliaeth mawr gan foneddigion y Plas yn ogystal.
Waliau carreg oedd yn derfynnau ar bob cae a ffridd. Roedd yna dwll defaid rhwng bron bob cae ac ambell gamfa i fynd dros y cloddiau lle roedd llwybrau yn croesi’r tir i’r coedwigoedd a giatiau pren wedi eu gwneud gartre gan Evan a fy nhad yn daclus ymhob adwy.
Roedd yn bwysig iawn bod cloddiau terfyn effeithiol rhwng pob fferm. Mor hanfodol oedd y rhain nes y’i gelwid gan ffermwyr yn ‘edau tangnefedd’ neu ‘gadwen heddwch’ mewn rhai llefydd.
Edrychid ar ôl y tir yn dda a doedd dim rhedynen na brwynen yn agos i’r caeau. Roedd pob cae wedi ei aredig a’i hadu ag eithio Cae Clogwyn a’r tir oedd wedi cael ei ddraenio. Y rheswm pam roedd Cae Clogwyn wedi cael llonydd oedd fod Beti Lewis yn anfodlon iddyn nhw gyffwrdd â’r aradr yn y lle am fod blodau hardd clychau’r gog, neu cenin y brain fel y galwai Beti Lewis nhw, yn tyfu yma. Roedd eu peraroglau fel diliau mêl.
Ym 1914 pan dorrodd y Rhyfel allan dyma ddechrau galw ar yr hogiau i ymuno â’r fyddin ac felly y cafodd fy nhad lythyr i fynd ger bron y Tribiwnal yn Wrecsam. Aeth Evan Lewis hefo fo i bledio’n eiriol am ei gadw rhag mynd i’r fyddin gan ddweud na fuasai byth yn medru cadw y fferm i fynd hebddo. Felly cafodd fy nhad ei gadw.
Roedd ‘na lawer o fechgyn Cymru yno y diwrnod hwnnw yn cynnwys rhai roedd y ddau yn eu hadnabod yn dda. A dyma nhad yn gofyn i Evan, ‘Be sy’n bod ar yr hogiau? Maent yn edrych yn symol.’
A dyma Evan yn ateb:’Paid â dweud dim. Wy’st ti be maen nhw wedi ei wneud? Maen nhw wedi llyncu darnau mawr o sebon sy’n achosi i’w calonau gyflymu a’i gwneud i edrych fel eu bod am gael trawiad ar y galon.’ Ac mae rhai wedi cymryd gefail i dorri esgyrn bysedd eu dwylo a rhai wedi gwneud bysedd eu traed hefyd.’Ond roedd rhai hogiau yn hollol wahanol ac eisiau mynd i ryfela a gweld y byd. Aeth y ddau adre ac yn falch o gael mynd o’r fath le.
Aeth rhyw fis heibio a daeth swyddog o dan y llywodraeth i Lech y Cwm, a phob fferm arall yn yr ardal, a rhoi gorfodaeth i bawb aredig mwy o dir diffaith a chodi mwy o gynnyrch fel gwenith, ceirch a haidd. Cerddodd bob modfedd o’r tir a gwelodd bod ‘na gae i lawr yn ymyl pont Llennyrch a oedd yn yr hen oes yn perthyn i dyddyn bychan o’r enw Bryn Bela. Fe glustnodwyd y cae yma, oedd yn dipyn o faint, i gael ei aredig a’i drin a chafwyd cynnyrch anhygoel o wenith a haidd ohono ac o geirch o dri cae arall yn ymyl y tŷ. Cafwyd tywydd braf a sych i ddod â’r cwbl i fewn i’r sgubor a’i ddyrnu’n ddiweddarach.
Y peth nesa oedd mynd â’r ŷd i’r felin i’w falu’n flawd i borthi’r anifeiliaid. Roedd y felin ar fferm Tyddyn Du, Gellilydan lle’r oedd yn cael ei chadw gan y teulu Roberts oedd wedi dod o’r pentref i ffermio hefo’u mab oedd yn ddyn ifanc o’r enw Edward Lloyd Roberts.
Roedd hi’n amser prysur iawn ar y felin yn ystod y Rhyfel Cyntaf a deuai yr amaethwyr â’u cynnyrch efo trol a cheffyl o’r ardal yma ac o Gwm Cynfal. Byddai’n rhaid cysylltu efo Edward Lloyd i wneud apwyntiad a byddai’n cofnodi’n ofalus eich enw, cyfeiriad, yr amser a’r dyddiad ar ei lyfr. Roedd o eisiau i bopeth fod yn iawn ac roedd o’n onest efo pawb.
Dywedai fy nhad fod peiriannau’r felin yn werth eu gweld, ‘yn sgleinio fel swllt,’ fel byddai’r hen bobl yn ddweud, a’r olwyn ddŵr yn nhalcen y felin yn cael ei harchwilio’n gyson a’r llyn yn cael ei lanhau fel oedd yr angen. Yma, ar ochr y llyn roedd yna gwch a rhwyfau, ac yma y deuai merched a bechgyn o’r ffermydd cyfagos gyda’r nosau ar ôl diwrnod o waith i fwynhau eu hunain. Drwy ganiatad Edward cawsant rwyfo’r cwch o un pen i’r llall, efo’r bachgen yn rhwyfo a’r ferch yr oedd yn ei ffansio yn eistedd gyferbyn ag o. Yn y gaeaf byddai’r llyn yn rhewi’n galed a phawb yn cael hwyl yn sglefrio o un pen i’r llall. Roedd digon i’w wneud a neb yn dweud ‘boring’ sydd yn air mawr yn yr oes bresennol.
Cyflogodd Evan forwyn i gynorthwyo ei fam hefo’r godro a pharatoi bwyd i’r moch a’r lloeau. Roedd Beti Lewis wedi cyrraedd ei phedwar ugain erbyn hyn ond yn heini iawn ac yn llawn hiwmor. Dyma hi un bore yn rhoi her i’r forwyn ifanc: ‘Beth am gael ras redeg i lawr ac i fyny Cae Stabal?’ a gofynnodd i Evan, fy nhad a dau ffermwr arall oedd yn digwydd mynd heibio ar y pryd i ddod i’w gweld. Cododd Beti ei sgert hir a chlymodd hi am ei chanol a dyma’r ddwy yn dechrau rhedeg! Fe gyrhaeddodd y ddwy waelod y cae gyda’i gilydd, ond dyma Beti yn rhoi llam sydyn ac i fyny’r cae yn ei hôl fel mellten tra roedd y forwyn druan yn pwffian wedi colli ei gwynt yn lân! Pawb yn curo dwylo ac yn chwerthin am i Beti Lewis ennil y ras.
Daeth terfyn ar y rhyfel ym 1918 a phawb yn falch o gael heddwch. Trist iawn oedd Evan a fy nhad pan gafodd Beti Lewis oerfel a droiodd yn bronchitis ac a fu’n achos ei marwolaeth.
Priododd Evan yn fuan ar ôl hyn a phriododd fy nhad mewn rhyw dair blynedd wedyn a mynd i fyw i Can y Coed a oedd dros yr afon i Lech y Cwm. Yma fe’m ganwyd innau a fy chwaer Glenys.
Ymhen rhyw bum mlynedd wedyn, symud i fferm yn Llanfrothen. Yno, ymhen rhai blynyddoedd y clywodd fy nhad y newydd trist fod Evan Lewis wedi gwneud amdano’i hun a bod ei weddw am adael Llech y Cwm cyn gynted ag oedd bosib. Cafodd fy nhad y cynnig cyntaf i fod yn denant yno ac felly, ym 1937, dyma ddychwelyd i’n hen ardal.