Plwy Maentwrog – Dafydd Jones

Rhamant Bro Gaeaf 1994

 

Cefais bleser mawr wrth chwilio am y deunydd hwn. Un anhawster mawr gododd oedd fod cymaint y gellid son amdano am blwy’ Maentwrog nes gwneud didol a dewis yn anodd. Y diwedd fu imi gydio mewn cowlaid a’i tharo yn y rhesal, a fy mwriad yw dewis ambell flewyn glas ddaw i’r golwg ac fel bydd ffansi yn fy nharo. Yn anochel fe olyga hynny y byddaf yn neidio o un lle i’r llall ac o un cyfnod i’r llall a hynny heb fawr o drefn na phatrwm. Ond efallai yn y pen draw ac mewn sgwrs fel hon y bydd hynny’n fwy difyr.

Mae Tomen y Mur yn sefyll ar un o gorneli plwy’ Maentwrog ac ar ddiwrnod clir gellir gweld rhan fwyaf o’r plwy’ o ben y domen. Yr hyn fydd yn fy synnu i bob amser yw cymaint o hanes sydd i’w weld o ben y domen. Codwyd y domen ei hun gan rhyw Eingl Normaniaid gafodd y syniad y medrent goncro’r wlad o amgylch. Mae’r domen hithau yn ei thro wedi ei chodi ar safle caer Rufeinig, cafodd y Rhufeiniaid hwythau, yr un syniad o goncro a meddiannu. Rhywle yn ymyl roedd llys Gronw Befr a chartref Blodeuwedd… rhan o’n hanes a’n chwedloniaeth ninnau’r Cymry.

Waeth ble edrychwch chi o ben y domen medrwch weld tai ac adfeilion, tyddynod a chaeau, i gyd gyda chysylltiadau hanesyddol o bwys. Yr ochr bellaf i Lyn Trawsfynydd, mae Cwm Moch lle gellir gweld olion llwybr sy’n dyddio’n ôl i ddwy fil o flynyddoedd cyn Crist. Mae’r llwybr yn cychwyn yn Llanbedr, yn codi i fyny heibio Pen yr Allt, heibio  Bryn Cader Faner, i lawr hyd odre Moel y Geifr, ar hyd Cwm Moch, ac wedyn yn troi ac yn anelu am Fryn Re a Bryn Maenllwyd ym mhlwy’ Trawsfynydd. Pan fyddaf yn cerdded y llwybrau hynny byddaf yn rhyfeddu fy mod yn troedio llwybr fyddai’n cael ei droedio gan ddynion dair neu bedair mil o flynyddoedd yn ôl.

Ar fin y llwybr yng Nghwm Moch ceir olion dau o’r cytiau crynion cynnar ac yn eu hymyl olion adeiladau hir-sgwar o’r canoloesoedd. Mae’r archeolegwyr yn damcaniaethu mai llefydd oedd rhain, y cytiau crynion a’r adeiladau eraill, i deithwyr ar y llwybrau i orffwys a thorri eu taith. I mi mae rhywbeth agos atoch yn y syniad fod dynion yr adeg honno yn gwneud yr un pethau ag a wnawn ninnau heddiw.

Yng Nghwm Moch hefyd, yn ystod y ganrif ddiwethaf, y cafodd rhywun oedd yno yn hel mwsog hyd i bedair o bennau gwaywffyn sy’n cael eu dyddio’n ôl i gyfnod tua mil o flynyddoedd cyn Crist. Symud carreg yn ddamweiniol wnaeth pwy bynnag gafod hyd iddynt, ac yno, wedi eu cuddio o dan y garreg oedd y pennau gwaywffyn. Unwaith eto mae’r archeolegwyr yn damcaniaethu ac yn synio mai cael eu cuddio gafodd y gwaywffyn gan rhywun neu’i gilydd oedd mewn perygl am ei einioes. Ei fwriad oedd dychwelyd am y gwaywffyn wedi i’r perygl gilio, ond ni chafodd wneud hynny, ac yno, dan garreg y bu’r gwaywffyn am bron i ddwy fil o flynyddoedd.

John Lloyd Cefnfaes ddaeth yn berchen ar y pennau gwaywffyn pan gafwyd hyd iddynt. Adnabyddid John Lloyd fel y Twrnai Llwyd, ac heblaw ei fod yn dwrnai yr oedd hefyd yn enwog yn ei ddydd fel hynafiaethydd. Roedd ei gasgliad yng Nghefnfaes, ac ar ôl hynny ym Mhlas Penglannau yn un hynod ac yn gasgliad oedd yn cael ei gymharu â’r casgliad enwog ym Mheniarth. Un o brif drysorau casgliad y Twrnai Llwyd oedd Cwpan Trawsfynydd.

Cefnfaes

Ar farwolaeth y Twrnai Lllwyd fe chwalwyd y casgliad; un o’r teulu oedd yn byw yn America oedd yr etifedd. Mae’r pennau gwaywffyn o Gwm Moch erbyn hyn yn yr Amgueddfa Brydeinig ac mae Cwpan Trawsfynydd yn Amgueddfa Lerpwl. Mae’n drist meddwl fod casgliad fel un y Twrnai Llwyd wedi ei chwalu ac na chafwyd cartref i nemor ddim ohono yma yng Nghymru.

Mae Cefnfaes yn dal ar ei draed ac yn un o’r tai annedd hynaf yn y plwy’. Uwchben y drws mae carreg ac arni arfbais teulu’r Llwydiaid ynghyd â’r dyddiad 1651. Er nad yw’r tŷ erbyn heddiw mewn cyflwr gwych mae rhyw urddas yn dal i berthyn iddo.

Fe gododd y Twrnai Llwyd Blas Penyglannau iddo’i hun, ac yn y Plas mae gardd fawr oedd wedi ei hamgylchynu â wal uchel. Yn ôl traddodiad fe gariwyd y pridd i’r ardd honno o Iwerddon a hynny am fod gan y Twrnai Llwyd ofn nadroedd ac nad oes nadroedd yn Iwerddon.

Rwyf am fynd yn ôl rwan at Lyn Trawsfynydd. Yn ymyl y brif argae ac erbyn  hyn o dan ddŵr y llyn, oedd Pandy’r Ddwyryd. Yno y sefydlwyd Achos yr Wyth Enaid, achos cyntaf y Methodistiaid yn Sir Feirionnydd. Lowri William, Pandy’r Ddwyryd, sefydlodd yr achos hwnnw, ac yn ôl yr hanes digwyddodd hynny ym 1755. Fe’i galwyd yn Achos yr Wyth Enaid am mai chwech o rai eraill ddaeth at Lowri William a’i gŵr John Pritchard ar y cychwyn cyntaf. Enw arall ar yr achos oedd Teulu’r Arch, a phrin mae’n debyg fod angen esbonio hynny i neb ohonoch a chwithau i gyd yn gyfarwydd â’ch Beibl!

Mae’n amlwg oddi wrth yr hanes fod Lowri William yn gymeriad hynod iawn, iawn. Fe fyddai hi hi ei hun yn offrymu’r cymun, ac os oedd yn gwneud hynny ym 50au a 60au y ddeunawfed ganrif yr oedd ymhell ar y blaen i Gymanfa’r Methodistiaid ar y pryd. Fe fyddai Lowri William yn cerdded filltiroedd, o fewn a thu allan i blwy’ Maentwrog, i gynnal y ffyddloniaid. Adroddir amdani’n cerdded i Ty’n y Pant, ym mhlwy’ Llandecwyn, lle roedd gwraig na fedrai gerdded oherwydd anhwylder. Deuai Elizabeth o Dyddyn Sion Wyn yno atynt ac yn ôl yr hanes byddai Lowri William yn Nhy’n y Pant yn offrymu’r cymun efo dŵr a bara.

Cyn gadael y pen yma i’r plwy’ mae un lle arall yr hoffwn son amdano a hwnnw yw Hendre’r Mur. Fel Pandy’r Ddwyryd mae Hendre’r Mur bellach o dan y llyn. Roedd yn nes i’r ffordd fawr na Phandy’r Ddwyryd ac yn ymyl yr argae gyntaf wrth fynd o’r ffordd fawr am yr Atomfa.

Hynodrwydd Hendre’r Mur yw ei fod yn un o’r tri neu bedwar lle yn y plwy’ fu ar un adeg yn noddi’r beirdd. Mae Edmwnd Prys yn un o’I  gywyddau yn canmol haelioni teulu Hendre’r Mur ac yn cyfeirio at Ieuan ap Gruffydd fel Eryr Maentwrog. Mae William Llŷn wedyn, mewn cywydd yn diolch am farch dros rhyw Sion Grythor, yn dweud hyn am Rhys Wyn o Hendre’r Mur:

‘Dy rodd hael, ymadrodda hyn,

A gefais heb ei gofyn.’

Mae’r traddodiad o gynnal y beirdd ac o ymddiddori yn y pethe yn parhau yn hanes teulu Hendre’r Mur hyd at flynyddoedd olaf y ddeunawfed ganrif. Tua diwedd y ganrif honno fe ysgrifennodd Rhys Jones o’r Blaenau englynion gofyn at Rhys Anwyl, person Llanycil, ac un o deulu Hendre’r Mur. Englynion gofyn ydynt am chwe ellyn, neu chwe raser, ar ran Sion Prys, Pennant:

‘Blewog, eisinog yw Sionyn – llesgaidd

O’i losgwrn i’w goryn,

Bryf o dwf, mae barf y dyn

Mor galed â môr- gelyn.’

Mae’n drist meddwl bod lle fel Hendre’r Mur, fu’n cynnal Cymreictod am gyhyd, a lle bu Lewis Dwn yno yn cofnodi ach y teulu yn yr ail ganrif ar bymtheg, fod lle felly yn brysur fynd i ebargofiant.

Un o’r llefydd i sylwi arnynt ar y ffordd rhwng yr Atomfa a Gellilydan yw Capel Utica a hynny efallai oherwydd fod yr enw yn un anghyffredin ar gapel. Cafodd ei godi ym 1843 ar dir a roddwyd i’r Annibynwyr gan William Jones. Un o’r plwy’ oedd William Jones a bu am flynyddoedd yn gweithio yn Utica, America. Gwnaeth gryn dipyn o bres yno a dychwelyd yn ôl i’w hen gartref ym mhlwy’ Maentwrog, rhoi’r tir i godi’r capel ac am flynyddoedd bu’n gefn i’r achos yn Utica. Yr hyn fyddaf yn hoffi ynglŷn â’r hanes yw’r disgrifiad ohono yn llyfr William Rees – ‘Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru’. Dyma mae William Rees yn ei ddweud am William Jones a’r rhodd yn ei dir, fe roddodd y tir meddai, ‘Oblegid y llwyddiant bydol a’r daioni crefyddol a fwynhaodd yno.’ Mae hwnna’n deud twt a chryno sy’n werth ei gofio. Ychydig ymhellach ar hyd y ffordd, ar y groesffordd am Llan Ffestiniog, mae Melin Tyddyn Du. Adfeilion ydi’r felin erbyn hyn ond mae Meredith a Paula, Tyddyn Du wedi dechrau ei hatgyweirio yn ddiweddar a gobeithio y cant hwylustod i wneud hynny. Mae’r felin ar dir Tyddyn Du, cartref Edmwnd Prys, ond , er gwell neu er gwaeth, nid wyf am son am Edmwnd Prys. Byddai angen rhesal neu reselau iddo’i hun i wneud cyfiawnder â’r dyn mawr hwnnw.

Mae melin Tyddyn Du yn hen felin. Os medrwch gredu’r hanes am Huw Llwyd, Cynfal, er mwyn talu pwyth, yn cael y cythreuliaid i ddal Edmwnd Prys o dan ddiferion cafn y felin, yna mae’r felin yn mynd yn ôl i o leiaf yr unfed ganrif ar bymtheg.

Y cofnod cyntaf i mi ei weld am Felin Tyddyn Du yw un yn 1670 lle ceir cyfeiriad ati mewn dogfen briodas rhwng Evan Evans, Plas Tan y Bwlch a  Jonnett, merch Cefnbodig.

Mae amryw o gyfeiriadau ym mhapurau Plas Tan y Bwlch at daliadau yn cael eu gwneud am gynnal y felin. Yn 1766 er enghraifft fe dalwyd £6.0.0. i Robert Parry, ‘millwright’ am drwsio cerrig y felin. ‘Dyw papurau Tan y Bwlch ysywaeth, ddim yn rhoddi manylion ond byddai’n ddiddorol cael gwybod yn union pa waith a wnaed gan Robert Parry. Roedd £6.0.0 yn 1766 yn gryn docyn o bres. Bedair blynedd ar ddeg cyn hynny, yn 1752, wyth swllt a dalwyd i John Hugh, ‘millwright’, am drin y cerrig.

Yn ysbeidiol y bu melin Tyddyn Du ynn gweithio ar ôl dau ddegau’r ganrif yma ond fe fu’n gweithio i fyny i bedwar degau’r ganrif. Mae hynny’n rhychwantu cyfnod o dri chan mlynedd o leiaf, sy’n golygu fod deuddeg cenhedlaeth o drigolion plwy’ Maentwrog wedi gweld y rhod yn troi ym melin Tyddyn Du. Ac yn fwy arwyddocaol efallai fod deuddeg cenhedlaeth na welsant gymaint a chymaint o newid ym mhatrwm ffarmio ym mhlw’ Maentwrog.

Dau bentref sydd ym mhlwy’ Maentwrog. Maentwrog ei hun a phentref Gellilydan, a gellid yn hawdd dreulio gyda’r nos cyfan yn son am y nail neu’r llall.

I raddau mae’n debyg mai hynodrwydd Gellilydan heddiw yw bod yno eglwys Babyddol. Ychydig o bentrefi yng nghefn gwlad Cymru sydd ag eglwys Babyddol. Y rheswm bod yno un yng Ngellilydan, mae’n debyg, yw i gymaint o Wyddelod symud i’r ardal i weithio pan godwyd yr Atomfa. Digwyddodd yr un peth i raddau llai pan wnaed Llyn Traws yn 20au’r ganrif.

Yn lle saif yr eglwys Babyddol heddiw, yr oedd ar un adeg farcdy. Hyd yn hyn methais ddod o hyd i ddyddiad sefydlu’r barcdy, ond ar ei anterth, ar ddechrau’r ganrif yma, roedd pymtheg ac ugain o ddynion yn gweithio yno. Cesglid y crwyn ar gyfer eu trin yn y barcdy o’r lladd-dai o amgylch ond does gennyf ddim tystiolaeth bod lledr yn cael ei gynhyrchu yno. Fe ymddengys i’r gwaith ddod i ben tua 1927, ac i hynny ddigwydd oherwydd i arian newydd gael ei fuddsoddi ar gyfer cynhyrchu lledr ond i’r fenter fynd o chwith.

Mae amryw o Bandai ym mhlwy’ Maentwrog, neu o leiaf dai neu adfeilion yn dwyn enw pandy. ‘Rwyf wedi son am Bandy’r Ddwyryd ac heb fod ymhell oddi wrtho mae Pandy Gwylan. Roedd panwr yn gweithio ym Mhandy’r Ddwyryd cyn i John Pritchard, gŵr Lowri William, symud yno ym 1755. Ceir cofnod o Pandy Gwylan ym 1838. Gan fod y ddau dŷ mor agos at ei gilydd, mae’n anhebyg i’r ddau fod yn gweithio ar yr un pryd. Y tebyg yw i’r pannu ddod i ben, am ryw reswm, ym Mhandy’r Ddwyryd a symud i Bandy Gwylan. Ym 1905 pan fu’r panwr farw ym Mhandy Gwylan, symudodd ei fab i fyw i bentref Gellilydan, a symudodd y pandy hefyd i’r pentref. Enw’r mab oedd William Edwards a bu’n gweithio fel panwr yng Ngellilydan o 1906 hyd at 30au’r ganrif. Un peth diddorol ymghylch William Edwards yw na fyddai neb bron yn cyfeirio ato wrth ei enw bedydd ond yn hytrach fel ‘Panwr’. Nid ‘Bore da William Edwards.’ Fyddai’r cyfarchiad, ond ‘Bore da Panwr’; ac os gofynid am ei farn, ‘Be dach chi’n ddeud Panwr?’ nid ‘Be dach chi’n ddeud William Edwards?’ Dyn pwyllog oedd William Edwards, pwyllog ei symudiadau a phwyllog ei ymadrodd. Pan brynodd gar, roedd pum milltir yr awr, yn ôl yr hanes, yn yrru rhesymol a deng milltir yr awr yn yrru gwirion..Clywais stori amdano yn danfon cymydog i’r orsaf ym Maentwrog Road yn y car. Wrth fynd i fyny’r allt o’r pentref edrychodd y cymydog ar ei watch a sylweddoli bod yr amser yn fain i ddal y tren a throdd at William Edwards a dweud – ‘Stopiwch y car Panwr dwi am gerdded!’ Roedd y Panwr, gyda llaw, yn trin y ddafad wyllt ond aeth â chyfrinach y feddyginiaeth gydag ef i’w fedd.

Mae un lle arall y gwn amdano yn y plwy’ sy’n dwyn yr enw pandy a hwnnw yw Pandy Bach. Does gennyf ddim hanes amdano fel pandy ond mae bellach yn dŷ annedd ar gyrrion y pentref ar fin y ffordd A470. Enw’r ffordd hommo rhwng  Gellilydan a Maentwrog yw yr Oakley Drive a’r enw hwnnw’n mynd â ni’n ôl i’r amser pan oedd yn ffordd breifat yn perthyn i’r Plas. Cyn belled ag y gwn i does neb yn ei chofio yn ffordd breifat, ond mae amryw yn cofio’r byddigions yn cyrraedd gorsaf Maentwrog Road ac yn cael eu cario gyda cheffyl a thrap i lawr yr Oakley Drive i Blas Tan y Bwlch. Mae amryw o’r trrigolion hŷn yn cofio hefyd gymaint o baciau fyddai gan y byddigions hynny, ac fel byddai ceffyl a ‘lori’ yn cario’r paciau i’r Plas. Trol oedd y ‘lori’, ond yn drol arbennig wedi ei cynllunio fel y gellid rhoi tro i’r olwynion i hwyluso cymryd trofeydd ar yr Oakley Drive.

Mae wrth gwrs ffordd arall yn arwain o Gellilydan i Faentwrog ac enw’r ffordd honno yw y Twll Mine. Gwelais yr enw wedi ei sillafu ar y ffurf Cymraeg Twll Main ond y tebyg yw mai’r ffurf Saesneg yw’r gwreiddiol, oherwydd yng ngwaelod yr allt, wrth ddod i mewn i Faentwrog, mae hen lefel. Ychydig o hanes sydd ar gael iddi, ond y farn gyffredin yw mai chwilio am gopr fuwyd yno ar un adeg.

Mae amryw o lefydd ar Twll mine sy’n werth sylwi arnynt. Ychydig tu allan i Gellilydan, ar y llaw chwith mae adfeilion capel cyntaf y Methodistiaid yn y plwy’. Fe’i codwyd ym 1810 a’r enw, gyda llaw ar y rhes gwta o dai yn ei ymyl yw Chapel Terrace. Ychydig yn nes i lawr wedyn, eto ar y llaw chwith mae adfeilion capel cyntaf yr Annibynwyr yn y plwy’. Enw’r capel hwnnw oedd Capel y Wern ac fe’i codwyd ym 1809.

Un o ffyddloniaid yr Annibynwyr ym mhlwy’ Maentwrog oedd Mrs Lloyd, Cefnfaes, mam y Twrnai Llwyd. Am flynyddoedd bu’n cerdded o’r cefnfaes i gapel Penstryd uwchben Bronaber. Pan godwyd capel Glan y Wern gofynnodd yr hen wraig, ac roedd mewn gwth o oedran bryd hynny, am sedd i deulu Cefnfaes yn y capel newydd. Gwrthodwyd hi ac fe ddigiodd yr hen wraig a mynd at y Methodistiaid lle cafodd, meddai’r hanes, ‘dderbyniad rhwydd’.

Cyn symud i lawr i bentref Maentwrog, a chan fy mod yn son am gapeli ac enwadau, mae angen son I’r Bedyddwyr fod ag achos yng Ngellilydan. Methais â dod o hyd i unrhyw fanylion heblaw mai enw’r capel oedd Capel Sinc. A rhag tramgwyddo mae yna wrth gwrs eglwys yn Tŷ Nant. Mae honno gyferbyn â melin Tyddyn Du. Ar un adeg, ysgol oedd adeilad yr eglwys, ysgol eglwys, ond mynnodd trigolion Gellilydan gael ysgol annibynnol yn y pentref, ac mae hanes diddorol i’r ffraeo ddigwyddodd wrth sefydlu’r ysgol honno. Wrth wrando a sgwrsio gyda rhai o digolion hynaf y plwy’ mae’n amlwg fod mwy o annibynniaeth o’r eglwys ac o’r Plas yn perthyn i drigolion Gellilydan a’r topiau o’u cymharu â thrigolion Maentwrog a’r dyffryn. Dywedodd mwy nag un o’r rhai fum i’n siarad â hwynt, ac wrth gofio dyddiau ysgol, mai ‘rhai balch yn siarad gormod o Saesneg oedd plant Maentwrog’.

Fel ag y mae o heddiw, pentref o’r ganrif ddiwethaf a diwedd y ganrif flaenorol yw Maentwrog. Pentref stad Tan y Bwlch, wedi’i godi ar gyfer gweithwyr y stad, a’i hanes ynghlwm wrth  hanes y stad.

Eglwys a phump o dai oedd ym Maentwrog ym 1696 yn ôl ‘Parochial Oueries’, Edward Llwyd. Cynnydd yng nghyfoeth stad Tan y Bwlch ddaeth â llewyrch a ffyniant a phrysurdeb i Faentwrog. Ac i raddau helaeth, llechi ‘Stiniog wrth gwrs ddaeth â’r cyfoeth i’r stad, ac yn sicr, llechi ‘Stiniog ddaeth â phrysurdeb i Faentwrog. A hynny oherwydd mai o Faentwrog y  byddai’r cychod yn cario’r llechi i’w llwytho ar y llongau yn Ynys Cyngar, y Traeth Mawr a Phorthmadog. Mae’r hanes hwnnw yn wybyddus i bawb ohonoch, felly, nid wyf am fanylu’n ormodol.

Mae un o’r llyfrau teithio o ddechrau’r ganrif ddiwethaf yn sôn am Faentwrog fel porthladd prysur. Gormodiaeth oedd dweud hynny mae’n sicr ond does dim dwywaith nad oedd y lle yn ystod chwarter cyntaf y ganrif ddiwethaf ac ymlaen  i ganol y ganrif yn fwrlwm o brysurdeb. Ym 1825 symudwyd 5600 o dunelli o lechi o gei Cemlyn ar y  cychod bach. Ac er mai cei Cemlyn oedd y prysuraf, roedd dau gei arall yn y plwy.... cei Bryn Mawr a Chei Pen Trwyn Garnedd ac yn yr un cyfnod, ym 1825, fe symudwyd 2000 o dunelli o lechi o Ben Trwyn Garnedd.

Mae ffigyrau fel y rhain yn rhoddi syniad o faint y gwaith oedd yn mmynd ymlaen yn y pentref ar y pryd. Pan gofiwch chi wedyn mai nid llechi yn unig oedd yn cael eu hallforio ond fod y fasnach goed, yn enwedig coed derw, yn un sylweddol ar y pryd, cewch rhyw syniad o’r bwrlwm oedd ym Maentwrog ac o bwysigrwydd masnachol y pentref.

Ar ben hynny, roedd rhyw gymaint o fewnforio yn digwydd ac fe gynyddodd hwnnw wedi i Samuel Holland agor storws ym Mhen Trwyn Garnedd.

Calch oedd y prif beth fyddai’n cael ei fewnforio. Byddai’n cyrraedd fel carreg galch ac yn cael ei losgi mewn odynnau yma ac acw ar lannau’r afon i gynhyrcchu calch ar gyfer gwrteithio’r tir. Y cyfeiriad cyntaf y gwn i amdano at odyn galch ym mhlwy Maentwrog yw ym 1785. Dogfen gyfreithiol yw honno lle mae William Nanney, Plas Nannau yndwyn achos yn erbyn perchnogion dwy odyn ar y sail fod yr odynnau yn achosi niwsans i drigolion eraill. Y ddwy odyn yn yr achos llys hwnnw oedd un yn ymyl cei Cemlyn a’r llall yn y pentref ei hun. Fe ellir fod yr odyn hwnnw yn ymyl Glan William lle mae clawdd cerrig wrth yr afon sydd efallai yn olion cei cynnar.

Gellid mynd ymlaen drwy gyda’r nos yn sôn am geiau, y cychod a’r odynnau, ond mae ambell i flewyn glas arall yr hoffwn i fynd i’r afael â fo. Cyn gadael yr odynnau a’r defnydd o’r calch fel gwrtaith, mae hi efallai’n werth cofio mai ffermio oedd prif ddiwydiant plwy’ Maentwrog. Os edrychwch chi drwy’r cyfrifiadau fe welwch gymaint o bennau teuluoedd yn y plwy’ sy’n nodi mai ffermwyr oeddynt wrth eu galwedigaeth. Ac fe gafodd ffermwyr y plwy’ arweiniad gan William Oakley, Plas Tan y Bwlch. Yn 90au’r ddeunawfed ganrif bu William Oakley wrthi’n brysur yn draenio a gwella tiroedd ar y stad ac mae rhai o’r ffosydd a’r cloddiau llanw godwyd ganddo bryd hynny i’w gweld heddiw. Roedd yn cael ei gydnabod bryd hynny fel dyn blaenllaw mewn gwella tiroedd, ac ym 1794 cafod fedal aur ar gorn y gwaith a wnaeth ar stad Tan y Bwlch.

Clywais sôn fod melin wynt ar un adeg ar y gweirgloddiau sydd islaw’r Plas a bod honno yn cael ei defnyddio i bwmpio dŵr o’r ffosydd i’r afon. Methais â dod o hyd i unrhyw ddogfen sy’n cyfeirio ati ond mae’n ddiddorol bod perchnogion presennol y caeau hynny yn defnyddio pwmp trydan i wneud yr un gwaith. Yn ôl yr hanes fe dynnwyd y felin wynt i lawr pan ddychrynodd breichiau’r felin un o geffylau plant y Plas a’i thaflu.

Gan imi symud i ben y Plas o’r plwy, efallai mai rwan yw’r amser i sôn am yr efail. Efail Tan y Bwlch yw’r unig efail y gwn i amdani yn y plwy’. Mae yna dŷ annedd yng Ngellilydan yn dwyn yr enw Llofft yr Efail, ond methais â chael unrhyw hanes o efail yno. Bum yn meddwl wedyn y dylai rhywun ddisgwyl y ceid efail ym Maentwrog. Steffan dynnodd fy sylw at y ffaith mai enw’r nant yn ymyl Efail Tan y Bwlch yw Nant yr Efail ac mai anamal y bydd enwau afonydd yn newid dros y canrifoedd. Mae felly yn debygol mai yn Nhan y Bwlch y bu’r efail o’r cychwyn, ac i raddau fe gadarnhawyd hynny i mi mewn dogfen welais yn ddiweddar. Yn yr hen ddogfennau yr enw a geir am Blas Tan y Bwlch yw Bwlch Coed y Dyffryn, ond yn y ddogfen yma, dogfen briodas rhwng Jonnett, Tyddyn Du, ac aer Tan y Bwlch, fe gyfeirir at Blas tan y Bwlch fel ‘Tan y Bwlch anciently called Ty yn Nant yr Efel’. Mae’r ddogfen yma’n dyddio o’r ail ganrif ar bymtheg.

Cyn gadael yr efail, hoffwn son am William Owen, gof rwyf yn ei gofio yno. Dyn diwylliedig iawn a chymeriad ym mhob ffordd. Roedd sgwrsio efo William Owen yn addysgbob amser. Rwy’n cofio idddo esbonio imi unwaith fel y byddai’n gosod pladuriau i’r pladurwyr cyn y cynhaeaf gwair. Roedd angen gosod pob pladur ar gyfer ei pherchennog. Ar ben llafn y bladur mae colyn gyda thro ynddo. Mae’r colyn hwnnw yn mynd i mewn o dwll hir-sgwar yng nghoes y bladur a chaead pren wedyn yn cael ei roi ar wyneb y twll a’i ddal yn ei legydg un neu ddau ddarn o haearn tenau. Ye enw roddodd William Owen imi am y gwaith o roddi’r colyn yn y bocs hir-sgwar oedd...’rhoi sant yn ei arch’. Dyn a ŵyr beth yw tarddiad y dywediad yna.

Cyn gadael Tan y Bwlch fe hoffwn son ryw ychydig am y llythyrdy fyddai yno. Roedd hwn am flynyddoedd nid yn unig yn llythyrdy’r plw’ ond hefyd yn llythyrdy’r ardal o amgylch gan gynnwys ‘Stiniog. Mae un enghraifft o stamp llaw o Dan y Bwlch sy’n dyddio’n ôl i 1798, ac mae hynny ymysg y cynharaf yn Sir Feirionnydd. Doedd dim llythyrdy yn ‘Stiniog hyd y 40au’r ganrif ddiwethaf, ac os meddyliwch am yr holllythyrau ddaeth i ‘Stiniog ynglŷn â gwaith y chwareli, medrwch ddychmygu maint y prysurdeb yn llythyrdy Tan y Bwlch. Y rheswm am bwysigrwydd llythyrdy Tan y Bwlch oedd y Plas, ac ar ben hynny lleoliad Tan y Bwlch. Roedd ffordd yr A5 yng Nghapel Curig a’r lôn bost wedyn o’r fan honno trwy Feddgelert ac Aberglaslyn heibio Tan y Bwlch ac ymlaen i Drawsfynydd ac i Ddolgellau. Roedd Tan y Bwlch ar drawiad da a’r dafarn yn gweithio i wneud y safle yn arbennig o hwylus.

Mae’r hen fforff... y ffordd gefn rhwng Tan y Bwlch a Dolmoch..... yn mynd heibio Bronturnor, cartref Yr Hynod William Ellis. Mae’n rhaid bod rhyw arbenigrwydd yn perthyn i ddyn sy’n cael ei gofio nid fel William Ellis Bronturnor, ond fel Yr Hynod William Ellis. Cafodd ei eni ym 1789 a bu farw yn 1855. Cael ei eni ym Mronturnor a byw yno trwy gydol ei oes, a medrem dreulio noson gyfan yn son am y dyn yma. Mae peth wmbreth o storiau ac hanesion wedi eu cofnodi amdano.

Roedd yn flaenor efo’r Methodistiaid, a chapel yr enwad bryd hynny oedd yr hen gapel ar gyrriion Gellilydan. Roedd hynny yn golygu dipyn o waith cerdded i William Ellis fynd i’r cyrddau ac roedd yn ddihareb am gyrraedd yn hwyr. Un Sul roedd holi’r eglwys ymlaen yn y capel a’r cwestiwn ofynwyd i William Ellis gan Mr Parry’r holwr oedd, ‘Ydi pawb yn dod i’r cyrddau’n brydlon?’ Petrusodd yr hen frawd am eiliad cyn ateb, ac yna meddai,’Wel, Mr Parry bach, mi awn oma’n daclus efo’n gilydd bob amser.’

Dyn addfwyn oedd William Ellis. Doedd ffraeo ddim yn rhan o’i gymeriad. Byddai ei ddefaid fyth a beunydd yn crwydro i gaeau ei gymydog. Un diwrnod gwylltiodd hwnnw a dweud wrth William Ellis—‘ Os daw’ch defaid chi drosodd yma eto mi saethaf nhw.’ Ac meddai William Ellis yn dawel, ‘Dwi’n synnu na fydda chi wedi eu saethu nhw erstalwm.’

Medrwn adrodd storiiau am oriau am William Ellis. Os ewch chi i fynwent Maentwrog edrychwch am ei fedd a’r garreg goffa syml ac arni’r geiriau ‘Yr hynod William Ellis Maentwrog, 1789 – 1855. Yn sicr ddigon roedd William Ellis yn un o hen ŷd y wlad.

Y lle amlycaf a’r pwysicaf mae’n debyg, ar y ffordd gefn yw Plas Dolmoch. Mae’n dyddio’n ôl i’r unfed ganrif ar bymtheg, ond cafodd ei atgyweirio ym 1643.

Bu teulu Dolmoch hwythau’n noddi’r beirdd ac mewn cywydd i Ruffydd Philip, un o Philipiaid Ardudwy, fe geir didgrifiad o’r tŷ fel y cafodd ei ail godi ym 1643 gan Sion Sions. Mae’r tŷ, meddai Gruffydd Philip, yn nodedig:

Ond ydyw yn nodedig,

Rasol brif o’r sail i’w brig.’

Mae’r tŷ hefyd yn olau:

‘Mor dda olau, mor ddilys

Ysteyrydd, llofftydd y llys.’

Ond mae Gruffydd Philip yn gweld un anhawster mawr, a hwnnw yw’r arian sydd ei angen i godi’r tŷ ac yn fwy fyth i’w gynnal:

‘Mawr yw’r tŷ – mae’r aur a’i tal?

Marc hynod; mwy yw’r cynal.’

Un o’r ffyrdd ddefnyddid gan y porthmyn yw’r ffordd gefn heibio Dolmoch. Byddent wedyn yn gyrru’r anifeiliaid heibio Cynfal ac i’r Migneint ac ymlaen i’r Bala a Lloegr.

Yn lle troi am Gynfal rwyf am gario ymlaen ar y ffordd fawr yn ôl am Faentwrog. Mae Llechrwd ar y llaw dde ac yno y byddai fy nhad yn cael plannu dwy res o datws am helpu efo’r cynhaeaf gwair. Pan oeddwn i’n hogyn byddai llawer yn y plwy’ yn gwneud hynny mewn gwahanol ffermydd, ond mae’r arfer cyn belled ag y gwn wedi darfod ers blynyddoedd bellach.

Yn union wedi mynd heibio Llechrwd, ond ar y llaw chwith, mae’r Ffatri. Methais â dod o hyd i wybodaeth bendant pa bryd y dechreuodd hon weithio fel ffatri wlân. Ceir cyfeirio ati ym 1810 ac mae’r dystiolaeth ar ôl 1860 yn fwy pendant. Daeth i ben tua throad y ganrif. Cyn bod yn felin wlân, melin chwarel oedd yr adeilad ond prin iawn yw’r hanes am y chwarel. Clywais sôn fod trwnc yn chwarel Llechrwd, ond mae’n anodd meddwl o edrych ar y lle y byddai angen trwnc yno.

Roeddwn am ddod yn ôl i Faentwrog er mwyn cael sôn ychydig am yr eglwys ac un neu ddau o lefydd eraill. Mae’r eglwys bresennol yn dyddio o 1896, ond yn yr eglwys mae llun sy’n dangos yr eglwys fel ag yr oedd rhwng 1814 a 1896. Roedd eglwys 1814 yn sicr o fod wedi ei chodi ar safle eglwys gynharach ond faint yn gynharach sy’n gwestiwn anodd i’w ateb. Mae yna gyfeiriadau at eglwys ym Maentwrog ym 1504, a chyfeiriadau llai cadarn wt eglwys gynharach na hynny. Yn wreiddiol fe gysegrwyd yr eglwys i’r Sant Twrog o’r 6ed ganrif. Yn ddiweddarach dan ddylanwad y Normaniaid y bu cysegru i’r Santes Fair, ond mae’n ddiddorol fod Maentwrog ar yr un adeg yn uno’r ychydig eglwysi oedd, yn swyddogol felly, wedi ei chysegru i ddau o’r seintiau, Twrog a Mair.

Mae’r rhesel yn dal yn llawn a medrem yn hawdd fod yma am awr arall. Ond thâl hynny ddim, mae amser yn mynnu fy mod yn tewi. Dau beth arall yn fyr a chwta yr hoffwn sôn amdanynt. Yr un cyntaf yw’r tŷ ar y llaw chwith i borth yr eglwys. Yr enw ar y tŷ yw Pen y Bryn, ond ar un adeg hwnnw oedd tafarn y Rose and Crown, ac mae’n debyg mai trwy un o ffenestri’r dafarn honno y rhoddodd Huw Llwyd, Cynfal, ei ben allan a chael ei felltithio gan Edmwnd Prys – os ydych yn credu’r hanes hwnnw!!

Yr ail beth, cyn terfynu, yw hynafiaeth yr enw Maentwrog. Ym mhedwaredd gainc y Mabinogi mae Gwydion a Phryderi, ar ôl iddynt groesi’r Traeth Mawr, yn ymladd, a Gwydion trwy ddefnyddio hud a lledrith yn lladd Pryderi. Fe gladdwyd corff Pryderi, ac yn ôl y chwedl, ‘Ym Maentwrog uwchben y Felenrhyd y’i claddwyd ac yno y mae ei fedd.’  Yn ôl Syr Ifor Williams mae chwedlau’r Mabinogi yn mynd yn ôl I’r unfed ganrif ar ddeg, ac ar lafar meant yn llawer hŷn na hynny.

Y diweddar brifardd Gwilym R Jones, mewn cywydd i Ddyffryn Maentwrog sy’n disgrifio’r dyffryn fel;

‘Hwndrwd a’r rodendendron

Yn wawch o liw uwch lôn.’

Ac yn sôn am:

Y llan dan fantell henaint

Sy’n dawel heb sêl y saint.’

Mae’r cywydd hwnnw yn diweddu efo’r cwpled yma:

‘Mae i galon ymgeledd

Yng ngwâl y dihafal hedd.’

Prydferthwch, hynafiaeth a thawelwch, dyna rai o nodweddion amlycaf plwy’ Maentwrog. Diolch ichi am ddarllen a dioch ichi hefyd am y testun. Yn fwy na dim  diolch I’r amryw o drigolion plwy’ Maentwrog fu mor barod i sgwrsio efo fi ac i rannu eu hatgofion am y plwy’